Ers peth amser mae’r ysgol wedi bod yn rhoi sylw i agweddau yn ymwneud ag iechyd a lles pawb sydd yn ymwneud â’r ysgol. Ym Medi 2006 derbyniwyd yr ysgol yn ffurfiol yn rhan o Gynllun Ysgol Iach Gwynedd a Môn sydd yn cael ei redeg drwy Lywodraeth y Cynulliad. Mae’r ysgol, a phawb sydd yn ymwneud â hi – yn blant, rhieni, staff, Llywodraethwyr a charedigion angen ymrwymo i nod y cynllun sef cyfrannu’n bositif tuag at sicrhau bod yr ysgol a’r amgylchfyd yn hyrwyddo iechyd yr holl gymuned.
Mae’r ysgol yn gweithio ar tua tri thema bob blwyddyn. Llwyddodd yr ysgol i gyrraedd Cam 5 o’r prosiect yn 2013.
Wrth gytuno i fod yn rhan o'r Cynllun Ysgolion Iach rydym fel ysgol wedi cytuno i,-
• Hybu cysylltiadau â'r Gymuned
• Gofalu am iechyd a lles y staff
• Annog y plant i fwyta'n iach
• Meithrin hunan-werth y disgyblion
• Sicrhau diogelwch yn yr ysgol
Creir Pwyllgor Ysgol iach yn flynyddol gan gynnwys plant o Flwyddyn 5 a 6.