Toggle Menu

Tripiau

imageYmweliadau Addysgol
Credwn fod mynd a phlant ar ymweliadau y tu allan i’r ysgol yn rhoi profiadau gwerthfawr iddynt, yn cyfoethogi eu bywydau a’u paratoi i fod yn ddinasyddion aeddfed.

Gall fod yn:
a) taith gerdded leol o gwmpas y pentref
b) taith diwrnod mewn bws neu
c) ymweliad lle bydd plant yn aros dros nos.

Yn achos b) a c) byddwn yn anfon manylion am y daith a gwybodaeth berthnasol i’r cartref gan fynnu fod yr ysgol yn cael caniatâd y rhieni cyn y caniateir i’r plentyn ymuno â’r gweithgaredd.
Lle bo elfen o gost e.e. cludiant, mynediad, ynghlwm â’r gweithgaredd gofynnir i rieni am gyfraniad gwirfoddol.