Toggle Menu

Gwaith Cartref

imageNid yw addysg wedi ei gyfyngu i oriau ysgol nac ychwaith o fewn muriau’r ysgol.
Yn wythnosol rhoddir gwaith cartref i'r plant drwy dasgau penodol neu ar ffurf Llyfr Log. Tasgau pen-agored yw rhain sydd yn rhoi sialensau amrywiol i’r disgyblion yn ymwneud â themau neu brosiect penodol.
Pan ddigwydd hynny gobeithir y bydd y cartref yn cydweithredu i hybu gwaith y plant. Ambell dro bydd gweithgarwch arbennig yn gofyn am wybodaeth gan rieni, perthnasau a chymdogion neu'n gofyn am waith holi a darganfod ar ran y plant. Sylweddolir mai cyfrifoldeb y cartref yw'r plentyn yn ystod yr oriau hyn ac mai yng ngoleuni'r cyfrifoldeb hwnnw y bydd rhieni yn cytuno neu'n anghytuno i gydweithredu. Disgwylir i’r rhieni hybu ymroddiad y plant yn eu gwaith ysgol ac y byddant yn ceisio dyfnhau ymwybyddiaeth eu plant yn eu treftadaeth a’r byd o’u cwmpas yn ogystal ag yn sgiliau sylfaenol llythrennedd a rhif. O dro i dro gall athro/athrawes ofyn i blentyn wneud gwaith ychwanegol er mwyn dileu rhyw wendid neu ganolbwyntio ar agwedd arbennig o'r gwaith. Bryd hynny gobeithir cael cydweithrediad llwyr y cartref ac anogaeth i'r plentyn gwblhau’r dasg.

image
image
image

image

image