Toggle Menu

Darllen

imageRydym yn argyhoeddiedig fod darllen yn rhan hynod bwysig yn natblygiad addysgol plentyn. Oherwydd hyn, mae gennym gynllun Darllen Gartref lle gofynnir i rieni ddarllen gyda'u plant yn rheolaidd. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf, llyfrau Cymraeg a ddefnyddir, ac yna'r ddwy iaith o hynny ymlaen. Wrth gwrs, cynllun gwirfoddol ydyw er lles eich plentyn chi, ac nid oes gorfodaeth arnoch i'w ddilyn. Bydd aelod o staff yn monitro llyfrau Darllen Gartref plant yn y Cyfnod Sylfaen ynrheolaidd, ac yn eu newid pan fo angen. Yn CA2, rydym yn disgwyl i’r disgyblion ddod a’u llyfrau darllen gartref eu hunain i’w newid a’u bod yn dechrau dewis llyfrau addas eu hunain. Yn ogystal, i hybu diddordeb mewn darllen byddwn yn dosbarthu catalogau llyfrau o bryd i’w gilydd. Nid oes unrhyw bwysau arnoch i brynu.