Toggle Menu

Llywodraethwyr

imageAdran Ddiogel Llywodraethwyr - cliciwch yma

Mae rôl y llywodraethwyr yn hanfodol i ddatblygiad yr ysgol, ac yn cynorthwyo drwy eistedd fel bwrdd ymgynghorol a chyfarwyddol, Gwnant benderfyniadau yngly^n â sut mae’r ysgol yn cael ei gweithredu. Bydd y corff llawn yn cyfarfod o leiaf un waith bob tymor, a cheir cyfarfodydd rheolaidd o’r is bwyllgorau i drafod agweddau staffio, cyllid, addysg arbennig, cwricwlwm ac adeiladau.

Mae llywodraethwyr yn cael eu penodi i gynorthwyo :-

• I benderfynu beth sydd yn cael ei ddysgu a fod disgyblion yn derbyn addysg o’r ansawdd uchaf
• I safoni ymddygiad y plant.
• I gyfweld a phenodi staff.
• I benderfynu sut mae gwario’r gyllideb.

Mae llywodraethwyr yn :-

• Rhieni
• Athrawon a staff ategol yn yr ysgol.
• Cynrychiolwyr cynghorau lleol.
• Cynrychiolwyr y gwasanaethau masnachol.

Mae rhiant-llywodraethwr :-

• Gyda phlentyn yn yr ysgol.
• Yn cael ei ethol/hethol gan rieni’r ysgol.
• Yn gwasanaethu fel bob llywodraethwr arall am gyfnod o 4 blynedd.

Mae Rhiant - Llywodraethwr yn allweddol ar gyfer dod â barn rhieni i’r corff cyfan, ond gallant drafod fel unigolion. Mae ganddynt statws cyfartal a’r hawl i fwrw pleidlais.

Byddwch chi fel rhieni yn ethol 3 Rhiant - Llywodraethwr am gyfnod o 4 blynedd.

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Cyngh Carwyn Jones

Adroddiad y Corff i Rieni 2020-21