Toggle Menu

Clybiau All-gwricwlaidd

imageMae'r ysgol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau sy'n agored i holl ddisgyblion yr ysgol sydd ym marn y Pennaeth yn aeddfed ac yn barod i gymryd rhan ynddynt. Cystadleuwn yn Eisteddfod yr Urdd ac mewn cystadlaethau eraill a drefnir. Mae timau pêl-droed, criced, pêlrwyd a rygbi yn yr ysgol a chymerant ran mewn cystadlaethau a drefnir un ai yn yr ysgol neu ar ôl oriau ysgol. Cefnogir hefyd gymdeithasau a chlybiau y mae’r plant yn perthyn iddynt y tu allan i oriau’r ysgol ac anogir y plant i ymuno â hwy.
Mae’r gweithgareddau hyn a drefnir gan yr ysgol i gyd yn amodol ar inni sicrhau cydweithrediad a chefnogaeth y rhieni. Ni all yr ysgol dderbyn cyfrifoldeb am oruchwylio plant ar derfyn sesiynau'r clybiau/cymdeithasau uchod a gofynnir i rieni a/neu warcheidwaid sicrhau eu bod yn gwneud trefniadau i hebrwng eu plant adref.

Cefnogwn weithgareddau yn y gymdeithas leol a threfnwn weithgareddau cyhoeddus. Cefnogwn amryw o fudiadau dyngarol. Trefnir gweithgareddau, yn achlysurol, i godi arian at Gronfa'r Ysgol.

Pa weithgareddau/ clybiau ychwanegol sydd ar gael yn Ysgol Llandegfan?

Pêl-droed
Mae’r ysgol yn chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn ysgolion lleol ac yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cwpan y Sir. Cynhelir clwb pêl-droed yn ystod Tymor yr Hydref pob wythnos.

Rygbi
Mae’r ysgol yn cynnig hyfforddiant rygbi yn ystod tymor y Gwanwyn a chwareir mewn sawl gwyl rygbi yn ystod y flwyddyn.

Nofio
I’r bechgyn a’r genethod ym mlynyddoedd 1 - 6. Llogir bws i gludo’r plant i bwll nofio Bangor neu Langefni.

Pêl-rwyd
Mae’r ysgol wedi ymuno â Chymdeithas Pêl-rwyd Cymru. Cynhelir clwb ar ôl ysgol yn ystod Tymor yr Hydref pob wythnos. Bydd yr ysgol yn cystadlu mewn sawl cystadleuaeth pêl-rwyd yn ystod y flwyddyn.

Clwb Coginio
Mae’r ysgol yn cynnig cyfres o sesiynau coginio i ddisgyblion Blwyddyn 6 yn ystod tymor yr Haf.

Clybiau Celf/ Gwyddoniaeth a Chyfridauron
Yn ystod tymor yr Haf caiff disgyblion Blynyddoedd 3, 4 a 5 gyfleon i gymryd rhan yn y clybiau uchod mewn cylchdro o 4 wythnos.

Yr Urdd
Mae’r ysgol yn gefnogol iawn o Fudiad yr Urdd. Bydd yr ysgol yn cystadlu mew sawl cystadleuaeth chwaraeon ac Eisteddfodau yn flynyddol. Cynhelir cyfarfodydd o’r Urdd pob pythefnos drwy gydol y flwyddyn.

Clwb Band
Mae Clwb Band yn cael ei gynnal yn yr ysgol pob wythnos.