21/07/23 Diwedd blwyddyn academaidd A dyna ni wedi cyrraedd diwedd blwyddyn academaidd arall. Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch yn fawr iawn i'r disgyblion, staff, y gymuned a chithau fel rhieni am eich cefnogaeth dros y flwyddyn. Gobeithiwn y cewch wyliau braf. Dymunwn y gorau i'n Bl6 wrth iddynt symud ymlaen yn eu haddysg, ac edrychwn ymlaen i groesawu pawb arall yn ol atom ar Fedi y 4ydd. |
10/03/22 Helpwch ni i ennill canopy Mae'n gyfnod cystadleuaeth ir Ysgol ac mae ganddom siawns i ennill canopy! Mae A&S Landscape, cyflenwyr yn y maes hwn yn rhoi cyfle i ysgol ennill 'shade sail'. Yr ysgol fuddugol fydd yr un gyda'r mwyaf o bleidleisiau, felly os gwelwch yn dda a allwch chi ein helpu? Gallwch bleidleisio i ni drwy glicio ar y linc o fewn y testun saesneg. |
18/02/22 Ymgynghoriad Gostwng Oed Mynediad yr Ysgol Mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad statudol ar gynnig ar gyfer y ddarpariaeth addysg gynradd yn Ysgol Llandegfan. |
18/02/22 Cais grant loteri yr Ysgol 'Rydym yn y broses o wneud cais grant loteri i wella'r ardal allanol er budd y gymuned tu allan i oriau ysgol gan gael ardal chwarae fel y llun isod ar gae yr ysgol. Er mwyn gwella ein siawns mae angen i ni ddangos ein bod wedi ymgynghori gyda'r gymuned ac i ni ddangos fod ein tir yn bwysig ar gyfer y gymuned. Gwerthfawrogwn eich amser i lenwi. |
17/03/21 ‘Rydym angen eich pleidlais! We Need Your Vote! Mae'n gyfnod cystadleuaeth ir Ysgol ac mae ganddom siawns i ennill canopy! Mae A&S Landscape, cyflenwyr yn y maes hwn yn rhoi cyfle i ysgol ennill 'shade sail'. Yr ysgol fuddugol fydd yr un gyda'r mwyaf o bleidleisiau, felly os gwelwch yn dda a allwch chi ein helpu? Gallwch bleidleisio i ni drwy glicio ar y linc o fewn y testun saesneg. |
06/03/20 - Merched Blwyddyn 6 yn mwynhau prynhawn yng Nghastell Biwmares Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
20/02/20 - Blwyddyn 6, Rhan o'n gwaith ar Anne Frank Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
20/02/20 - Blwyddyn 6, Gwaith Celf a Hanes o'r Ail Ryfel Byd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
13/11/19 - Ymgynghoriad Meithrin Ysgol Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
17/10/19 - Bl 6 yn dechrau gwersi beicio Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
17/10/19 - Bore Coffi Macmillan Diolch yn fawr i bawb ddaeth i'n bore coffi. Braf oedd cael gweld ein disgyblion yn sgwrsio a helpu ar fore cynhyrchiol iawn yn codi arian i elusen. Diolch am eich haelioni a codwyd £500. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
17/10/19 - Bl 3 a 4 yn ymweld a Clwb Rygbi Porthaethwy Cafwyd diwrnod gwerth chweil yn y clwb yn gwylio Cymru yn ennill ac hefyd yn cael gwersi rygbi gan hyfforddwyr o'r clwb. Diolch yn fawr iawn i chi am weithio gyda'r disgyblion. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
19/09/19 - Ymweliad Cyngor Eco a Phlas Cadnant Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
17/09/19 - Dyddiadur Digwyddiadau y Tymor Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
21/06/19 - Bore hanesyddol iawn ym Mryn Celli Ddu Meilir a Ffion yn cael eu ffilmio gan y rhaglen 'Heno' ar S4C. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
11/03/19 - DJ Mwnci Bach A dyma Dj Mwnci Bach sef Lucy Roberts o flwyddyn 5!! Siaradodd i'r Genedl drwy lenwi fel dj ar raglen fore Huw Stephens ar Radio Cymru. Da Lucy! |
11/03/19 - Gweithdy Menter Iaith Mon Gweithdy Menter Iaith Mon - gwaith gyda Prosiect Wici Mon o dan cyngor ac arweiniad Aaron Morris. Diddorol iawn. Sgiliau di ri yn cael eu hymestyn. |
06/02/19 Diwrnod Diogelwch Y Rhyngrwyd Byddwch yn ddiogel ar lein - cliciwch yma |
04/02/19 - Hyfforddiant beicio Blwyddyn 6 cymryd rhan mewn hyfforddiant beicio. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
04/02/19 - Gweithdy Unicef s Disgyblion Cybi yn rhan o weithdy Unicef gan ddisgyblion Ysgol David Hughes. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
24/10/18 - Parti Calan Gaeaf Cyfeillion Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
24/10/18 - Diwrnod Mr Urdd Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
24/10/18 - Gwaith Hydref Dosbarth Derbyn Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
21/06/18 - Blwyddyn 6 Ar Waith Blwyddyn 6 yn cydweithio gyda Athrawon Ysgol David Hughes - cliciwch yma i weld mwy o luniau |
21/06/18 - Sioe 'Gwneud Dewisiadau Da' Diolch Mark am ddod i'r ysgol i wneud sioe a oedd gyda neges bwysig- Gwneud dewisiadau da. Sioe llawn mwynhad - cliciwch yma i weld mwy o luniau |
19/06/18 - Chwarae Golff Dyma ni yn ymarfer ein golf yng Nghlwb Golf Henllys - cliciwch yma i weld mwy o luniau |
18/06/18 - Bryn Celli Ddu Dosbarth Cybi yn dysgu am hanes lleol - cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
18/06/18 - Ras Hwyl Llandegfan Dosbarth Cybi - athletwyr o fri ! |
22/12/17 – Diwrnod olaf y tymor Dyma ni wedi cyrraedd ein diwrnod olaf y tymor hyn. Rydym wedi bod yn brysur iawn ac wedi mwynhau yn y broses. Gobeithio bydd Sion Corn wedi bod yn hael iawn gyda chi oll ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu yn ôl yn dilyn y gwyliau ar Ionawr yr 8fed. |
15/12/17 – Cinio a Parti Nadolig Heddiw cawsom ein cinio nadolig blynyddol. Diolch i staff y gegin am baratoi cinio hyfryd i ni oll. Ar ôl llenwi ein boliau – aethom ati I chwarae amryw o gemau traddodiadol i gael i mewn i hwyl y Nadolig. |
14/12/17 – Panto Peter Pan I ymlacio yn dilyn gwasanaeth carolau gwych – aethpwyd a’r disgyblion i Venue Cymru i weld panto Peter Pan. Cafodd y disgyblion brynhawn llawn hwyl ac roeddynt wir wedi mwynhau. |
13/12/17 – Cyngerdd Nadolig Cafwyd dau gyngerdd gwefreiddiol yn Capel Barachia – Y Cyfnod Sylfaen yn y prynhawn a’r Adran Iau gyda’r nos. Yma cafwyd cyflwyniadau gwahanol ar wir ystyr y Nadolig. Diolchwn i bawb am eu haelioni yn y casgliad wrth i pob ceiniog fynd i gefnogi y capel. |
8/12/17 – Ffair Nadolig Cynhelwyd ffair Nadolig yr Ysgol yn ein Neuadd. Roedd y Neuadd yn orlawn a braf gweld cyn ddisgyblion yn ymweld gyda stondinau eu hunain. Yn ystod y noson bu i ni droi goleuadau ein coeden Nadolig ymlaen yn swyddogol gyda cymorth ein Cor. Diolchwn yma i Evans Brothers am fod mor hael a cyfrannu coeden mor enfawr am bris rhesymol iawn. Braf oedd gweld ein hysbryd cymunedol yn byrlymu. |
6/12/17 – Carolau’r Urdd Cafwyd noson wefreiddiol yn y dalgylch ble bu i’n hysgolion gyfarfod i ganu ein hoff garolau Nadolig. Roedd y gynulleidfa wedi mwynhau yn arw ac rydym yma yn Llandegfan yn falch o’n cor. |
5/12/17 – Trip Synhwyrau Miss Jones Cafodd disgyblion Blwyddyn 1 daith gwerth chweil i Fiwmares yn ymweld a rhai o fusnesau lleol. Ymwelwyd a Castle Bakery, Alton Murphy a siop pethau da draddodiadol i gyd ar eu taith o ddysgu am eu synhwyrau. Diolchwn yn fawr I’r cwmniau hyn am fod mor wych gyda ein disgyblion. |
1/12/17 – Cor yr Ysgol yn cefnogi y Brodyr Magee Bu i gor yr ysgol ganu mewn noson wedi ei drefnu gan gymuned Llandegfan. Roeddynt yn canu a rhannu lwyfan gyda y Brodyr Magee. Cafwyd noson gwerth chweil a braf oedd gweld Neuadd y pentref dan ei sang yn hybu ein diwylliant Cymreig. |
14/11/17 – Type Onesie Diolch i bawb am gefnogi diwrnod Type Onesie heddiw. Diwrnod ydoedd i godi ymwybyddiaeth o glefyd y siwgwr. Yn ystod y dydd bu i’r disgyblion wisgo Onesie a cael sgyrsiau am y clefyd. Casglwyd swm anferthol o £360 ar gyfer yr elusen. |
10/11/17 – Dydd Y Cofio Cawsom ddiwrnod heddiw yn cofio am bawb sydd wedi bod ymladd i gyfrannu at ein rhyddid. Cafwyd gwasanaeth yn yr Ysgol a bu I ddosbarth Miss Stuart ymweld a chofeb y pentref ble darllenwyd cerddi wedi eu hysgrifennu gan y disgyblion. Diolchwn i’r disgyblion a’u teuluoedd i gyd hefyd am fod mor hael yn cefnogi ymgyrch y ‘Royal British Legion.’ |
20/10/17 – Bake Off Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yng nghystadleuaeth Bake Off cyfeillion yr Ysgol. Roedd llond Neuadd o gacennau a casglwyd £200 at y gronfa. |
18/10/17 – Llysgenhadon Efydd Bu pedwar disgybl o flwyddyn 6 yn derbyn hyfforddiant I fod yn lysgenhadon efydd chwaraeon yr Ysgol. Cafwyd bore defnyddiol iawn a death y pedwar yn eu hôl gyda llawer o syniadau newydd. |
16/10/17 - Gwasanaeth Tân Diolch i'r gwasanaeth tân am ymweld â'r Ysgol Dydd Gwener i atgoffa disgyblion o'r ffyrdd o gadw eu hunain a'u cartref yn ddiogel. |
12/10/17 - Ymwybyddiaeth Ariannol Diolch i Nat West am ymweld â'r Ysgol ddoe i godi ymwybyddiaeth dosbarth Mrs Cenydd o faterion ariannol. |
03/10/17 - Lluniau Unigol Bydd lluniau unigol yn cael eu cymryd yfory. Cyfle i frodyr a chwiorydd nad ydynt yn yr ysgol i fod yn rhan o'r lluniau rhwng 08:45 a 09:30. |
02/10/17 - Diwrnod Di-Wisg Diolch i bawb am gefnogi ein diwrnod di-wisg Dydd Gwener a drefnwyd gan y Cyngor Ysgol. Bydd y gefnogaeth yn sicr o helpu'r cyngor i lywio newidiadau yn y dyfodol. Bydd y diwrnod di-wisg hyn yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener olaf pob mis. |
26/09/17 - Dŵr Cymru Diolch yn fawr i Dŵr Cymru am ddod i'r Ysgol heddiw i drafod gyda'r disgyblion am y gylched ddŵr a sut mae dŵr yn cyrraedd ein cartrefi. |
15/09/17 - Prif Ddisgyblion
Pob lwc i chi yn eich rôl. |
13/09/17 - Gwersi Beicio Bydd gwersi beicio blwyddyn 6 yn dechrau yfory am gyfnod o 6 wythnos. Pawb i sicrhau fod ganddynt helmed a dillad tywydd gwlyb gyda hwy os gwelwch yn dda. |
12/09/17 - Cyfarfod Neithiwr Diolch i bawb a fynychodd y sesiwn cyfarfod Pennaeth neithiwr. |
08/09/17 - Cyfarfod y Pennaeth Atgoffa - Cyfle i gyfarfod y Pennaeth newydd Nos Lun, 11/9/17 am 6yh yn neuadd yr Ysgol. |
06/09/17 - Clybiau
|
04/09/17 - Croeso Croeso yn ôl ac i'r flwyddyn addysgol newydd. Gobeithio caiff pawb sydd ynghlwm â'r Ysgol flwyddyn gwerth chweil. Hoffai'r Pennaeth newydd Mr D Hood hefyd ddiolch am y croeso cynnes y mae wedi ei dderbyn gennych eisoes ac ei fod yn edrych ymlaen i weithio i ddatblygu'r Ysgol er gwell. |
03/10/16 - Gwefan Newydd Croeso i wefan newydd Ysgol Llandegfan. |
19/07/16 - Ffarwel Blwyddyn 6 Gwasanaeth Ffarwel Blwyddyn 6. Atgofion, chwerthin a dagrau! Pob lwc Blwyddyn 6 |
14/07/16 - Pencampwyr pêl-rwyd Pencampwyr pêl-rwyd eleni - Llys Tysilio |