Toggle Menu

Plant Y Lluoedd Arfog

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl bod y rhai sy’n gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.

Mae’r cyfamod yn canolbwyntio ar helpu aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog i beidio profi mantais neu anfantais oherwydd y Gwasanaeth ac o ganlyniad yn cael yr un mynediad at wasanaethau'r llywodraeth a masnachol, yn ogystal â nwyddau ag unrhyw ddinesydd arall.

Am ragor o wybodaeth ar Gyfamod y Lluoedd Arfog, ewch i:
www.armedforcescovenant.gov.uk/support-and-advice

Yn Ysgol Gynradd Llandegfan rydym yn arddangos ymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog drwy’r gweithgareddau canlynol:

  • Rydym yn ymgysylltu gyda chymuned y Lluoedd Arfog
  • Rydym yn dathlu ymrwymiadau ein cymuned Lluoedd Arfog mewn modd cadarnhaol
  • Rydym yn creu cyfleoedd i deuluoedd y Gwasanaeth rannu eu profiadau
  • Rydym yn adnabod plant y Gwasanaeth ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi'n dda mewn addysg
  • Rydym yn rhagweithiol wrth ennill gwybodaeth a fydd yn ein galluogi i gefnogi plant y Gwasanaeth
  • Rydym yn ymgysylltu gyda SSCE Cymru a’r adnoddau ac yn cefnogi’r hyn maent yn ei ddarparu
  • Rydym yn sicrhau bod ein disgyblion i gyd yn cael cyfleoedd i ddysgu am weithredoedd presennol y Lluoedd Arfog ac ymrwymiadau personél Gwasanaeth y DU
  • Rydym yn deall yr ymrwymiadau a’r aberth mae teuluoedd y Lluoedd Arfog yn eu gwneud i sicrhau ein bod yn ddiogel ac yn cael ein gwarchod rhag perygl.

Yn Ysgol Gynradd Llandegfan rydym wedi llwyddo i elwa ar y cyllid i:

  • Sicrhau bod staff ymroddedig yn derbyn hyfforddiant cymorth emosiynol diweddar-wedi ariannu gan Llywodraeth Cymru fel rhan o'u hymrwymiadau i gyfamod y lluoedd arfog

Diffiniad o Blentyn Milwr

Diffiniad SSCE Cymru o blentyn Milwr:

  • Person mae ei riant, neu prif ofalwr, yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog rheolaidd, neu fel rhywun wrth gefn, neu sydd wedi gwneud hynny ar unrhyw adeg yn ystod 25 mlynedd gyntaf bywyd y person hwnnw.

Mae diffiniad plentyn Milwr yn amrywio rhwng gwahanol sefydliadau ond mae bob amser yn canolbwyntio’n gyson ar gefnogi plant Milwyr.

Profiadau Plant Milwyr

Gallant gynnwys:

  • Effaith emosiynol gwahanu yn ystod cyfnodau gwasanaeth/hyfforddiant
  • Symud ysgol a chartref yn aml
  • Methu cynnwys y cwricwlwm/ailadrodd cynnwys y cwricwlwm
  • Gwneud ffrindiau
  • Addasu i wahanol gwricwlwm
  • Byw mewn gwahanol wledydd
  • Dysgu Cymraeg am y tro cyntaf
  • Methu ffrindiau a theulu
  • Effaith ar ffordd o fyw’r teulu pan fydd rhiant / rhieni yn gadael y Lluoedd Arfog

Gweler fideo SSE Cymru am brofiadau plant Milwyr i gael trosolwg

Ein hymrwymiad a chefnogaeth

Ethos yr ysgol a ‘Hawliau’r Plentyn’

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn cydnabod bod plant mewn gwahanol sefyllfa i oedolion a bydd ganddynt anghenion amrywiol oherwydd bod plentyndod yn cynnwys camau datblygiad corfforol ac emosiynol. Mae ein hysgol yn cydnabod y gallai plentyn o deulu Milwr fod angen cefnogaeth gyda dysgu ac iechyd meddwl a lles ar ryw adeg yn eu bywydau oherwydd eu hamgylchiadau unigryw. Fe allai hyn fod oherwydd symudedd, adleoli, addysg a/neu anghenion cymdeithasol.

Yn Ysgol Gynradd Llandegfan rydym yn darparu cyngor a chefnogaeth i sicrhau bod plant Milwyr yn cael pob cyfle i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl a chyflawni eu potensial. Rydym yn anelu i blant milwyr dderbyn eu hawl llawn i gefnogaeth a gwasanaethau statudol a pheidio dioddef unrhyw anfantais o ganlyniad i ymrwymiadau gwasanaeth eu rhieni, dyma egwyddor greiddiol Cyfamod y Lluoedd Arfog. Ein nod yw darparu cefnogaeth ragweithiol ac ataliol yn ogystal ag ymateb i anghenion sy’n dod i’r amlwg.

Adnabod plant Milwyr

Mae bod yn ymwybodol o nifer y plant Milwyr yn Ysgol Gynradd Llandegfan yn ein galluogi i ddeall eu hanghenion a chael mynediad i gefnogaeth/cyllid os oes angen. Wrth gael eu derbyn i’r ysgol, byddwn yn gofyn y cwestiwn hwn fel rhan o’n proses gofrestru, yna cofnodi’r manylion ar systemau data mewnol yr ysgol. Bob blwyddyn, rydym yn rhannu cyfanswm nifer o blant Milwyr sydd wedi’u cofrestru yn ein hysgol gyda SSCE Cymru.
“Ydi’r plentyn yn aelod o deulu Milwr?” Plentyn y mae ei riant / rieni yn gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol/ Môr-Filwyr Brenhinol/y Fyddin Brydeinig, Yr Awyrlu Brenhinol neu fel Milwr Wrth Gefn.)

Gwrando ar blant Milwyr

Mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar blant Milwyr er mwyn dysgu am eu profiadau a chanfod pa gefnogaeth sydd ei hangen arnynt a pha gyfleoedd yr hoffent eu cael. Yn Ysgol Gynradd Llandegfan, byddwn yn gwneud hyn trwy gynnig cyfle i bob dysgwr gymryd rhan mewn rhaglenni llais y disgybl. Rydym hefyd yn rhedeg grwpiau llais y disgybl yn benodol ar gyfer plant milwyr, gan ddefnyddio Adnodd 11 SSCE Cymru. CANLLAW: Llais plant milwyr.

Ymgysylltu gyda chymuned Y Lluoedd Arfog

Mae Ysgol Gynradd Llandegfan yn cydnabod yr ymrwymiadau mae ein teuluoedd Lluoedd Arfog a’r gymuned ehangach yn eu gwneud ac rydym yn hyrwyddo’r cyflawniadau hynny yn yr ysgol mewn modd cadarnhaol a pharchus. Mae rhai enghreifftiau o sut rydym yn ymgysylltu â chymuned y Lluoedd Arfog a dathlu cyflawniadau’r Lluoedd Arfog yn cynnwys:

  • Rydym yn mynychu Fforwm Lluoedd Arfog ein hawdurdod lleol i sicrhau bod gennym wybodaeth a chysylltiadau perthnasol a diweddar
  • Rydym yn cynnal fforymau a digwyddiadau i deuluoedd Milwyr a chynnig cefnogaeth/cyngor
  • Rydym yn nodi digwyddiadau perthnasol fel Sul y Cofio
  • Rydym yn sicrhau bod pob un o’n disgyblion yn ymwybodol o brofiadau ac ymrwymiadau cymuned y Lluoedd Arfog
  • Mae aelod o gymuned y Lluoedd Arfog ar gorff Llywodraethu ein hysgol
  • Rydym yn cydweithredu gydag ysgolion eraill sydd â phlant Milwyr i rannu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth.

Polisi absenoldeb yn ystod y tymor ar gyfer plant y Lluoedd Arfog

Mae Ysgol Gynradd Llandegfan yn cydnabod nad yw teuluoedd Lluoedd Arfog yn gallu mynd ar wyliau gyda’i gilydd ar adegau eraill yn ystod blwyddyn ysgol. Mae gan y Pennaeth, Mr D Hood, bwerau disgresiwn i awdurdodi gwyliau ar gyfer teulu yn ystod y tymor os fydd rhieni’n gofyn am ganiatâd. Tra’n cyflwyno cais am absenoldeb yn ystod y tymor, dylai deulu y Lluoedd Arfog ddarparu llythyr gan eu huned yn cadarnhau fod angen iddynt fod yn absennol.

Wrth ddod i benderfyniad am yr absenoldeb yn ystod y tymor, bydd y Pennaeth yn ystyried:

  • Yr adeg o’r flwyddyn ar gyfer yr absenoldeb arfaethedig
  • Hyd a phwrpas yr absenoldeb
  • Yr effaith ar ddilyniant dysgu
  • Amgylchiadau’r teulu a dymuniadau’r rhieni
  • Patrwm cyffredinol o bresenoldeb y plentyn.

Polisi iaith Gymraeg ar gyfer plant y Lluoedd Arfog

Er bod astudio Cymraeg neu Gymraeg Ail Iaith yn orfodol hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 4, does dim gofyniad fod yr ysgol yn cofrestru’r dysgwyr am gymhwyster penodol. Mae Ysgol Gynradd Llandegfan yn ystyried lles gorau plant y Lluoedd Arfog a bydd bob amser yn sicrhau fod gan ddysgwyr fynediad i’r cwricwlwm cyfan.
Bydd y penderfyniad i datgymhwyso disgybl o ran o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, yn cynnwys Cymraeg Ail Iaith, yn cael ei ystyried gan y Pennaeth mewn amgylchiadau prin iawn, gan adolygu’r angen i datgymhwyso ar sail unigol ac ystyried pob ffactor.

Cefnogaeth a gynigir i blant Milwyr a’u teuluoedd

  • Rydym yn sicrhau bod gan ein staff i gyd ddealltwriaeth o brofiadau plant Milwyr a sut gallai hyn effeithio ar eu haddysg
  • Rydym yn ymgysylltu â SSCE Cymru a defnyddio’r nifer o adnoddau sydd ar gael
  • Rydym yn rhedeg clwb MKC Heroes i’n plant Milwyr
  • Rydym wedi creu pecyn pontio cynhwysfawr i sicrhau’r effaith leiaf bosibl i blant Milwyr wrth symud i mewn ac allan o (rhowch enw’r ysgol), gan ddefnyddio Adnoddau SSCE Cymru:
    • 5. TEMPLED: Pecyn croeso yr ysgol
    • 6. RHESTR WIRIO: Trosglwyddo i mewn ac allan o’r ysgol
    • 7. CWESTIYNAU ENGHREIFFTIOL: I’w gofyn i blentyn y Lluoedd Arfog o’r newydd
    • 14. TEMPLED: Llyfryn symud ysgol (i blant y Lluoedd Arfog).

Llwyddiannau Arian

Mae ein hysgol wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau'r cronfeydd canlynol:

  • Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog – Grantiau Lleol

Mae llwyddiant y cronfeydd hyn wedi ein galluogi i:

  • Sicrhau bod staff dynodedig yn ddiweddar gyda’u hyfforddiant cefnogaeth emosiynol - ariannwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u hymrwymiadau i Gyfamod y Lluoedd Arfog.

Manylion cyswllt yr Ysgol

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am blant Milwyr neu’r gefnogaeth a gynigir gan Ysgol Gynradd Llandegfan cysylltwch â:
Enw: Mr D Hood
Teitl Swydd: Pennaeth
Rhif Ffôn: 01248713431
E-bost: 6602174_pennaeth.llandegfan@hwbcymru.net