Mae Ysgol Gynradd Llandegfan yn credu’n gryf mewn rhoi llais i blant yr Ysgol. Oherwydd hyn, bydd y plant yn flynyddol yn ethol eu cyfoedion i fod ar Gyngor yr Ysgol.
Bydd y cyngor yn cyfarfod yn rheolaidd, ac yn rhoi cyfle i’r disgyblion fynegi eu barn ar faterion pethnasol iddynt hwy.
Amcanion y Cyngor Ysgol
1. I roi cyfle i ddisgyblion weithio mewn partneriaeth gyda staff a Llywodraethwyr er mwyn datblygu cymuned ysgol sy’n gofalu am bob un.
2. I roi cyfle i’r disgyblion wella bywyd ysgol ar gyfer pob un.
3. I roi cyfle i ddisgyblion ymarfer a datblygu sgiliau sy’n eu paratoi ar gyfer bod yn rhan o’r gymdeithas.
4. I roi cyfle i ddisgyblion ddatrys problemau a goresgyn gwrthdaro yn yr ysgol.
5. I gyfrannu i gynnwys y CDY
Cyfrifoldebau’r Cynrychiolwyr
Bydd disgwyl i’r cynrychiolwyr adrodd yn ôl i’w dosbarth yn dilyn cyfarfodydd. Disgwylir iddynt gynrychioli barn y dosbarth ac nid eu barn personol yn unig.
Yr Aelodau 2016-2017
Harri Thomas ac Annabel Pawson (Blwyddyn 2)
Emma Harrison a James Lindoe (Blwyddyn 3)
Monty Grant a Holly Roberts (Blwyddyn 4)
Luca Meek a Amy Owen (Blwyddyn 5)
Osian Malolney a Emily Williams (Blwyddyn 6)
Nathan a Kaitlin (Dosbarth Y Glannau)