Rydym fel ysgol bob amser yn herio ein hunain i fod yn arloesol a blaengar yn yr hyn rydym yn ei wneud er mwyn sicrhau fod holl blant yr ysgol yn cael y sylfaen gadarn y maent ei angen er mwyn adeiladu arno, a thrwy hynny profi llwyddiant yn eu bywydau.
Mae llawer o newidiadau ym myd addysg Cymru ar hyn o bryd, ac mae'n bwysig ein bod yn barod ar gyfer y newidiadau hynny gan gynnwys y Cwricwlwm newydd yn dod yn statudol o fis Medi 2022. Rydym wedi cymryd hyn i ystyriaeth wrth benderfynu ar ein blaenoriaethau eleni ynghyd a parhau I fynd I afael ar effaith y pandemig ar addysg ein disgyblion.
Blaenoriaethau Cynllun Datblygu Ysgol 2019 – 2020:
Mae'r ysgol wedi derbyn cadarnhad y bydd yn derbyn grant o £19,550 o’r Grant Datblygu Disgyblion i'w wario ar gefnogi disgyblion yr ysgol. Bydd yr ysgol yn parhau i wario'r rhan health o’r arian ar gyflogi cymhorthydd arbennigol yn ogystal a nwyddau I gefnogi a ehangu’r ddarpariaeth.