Ysgol Gynradd Sirol (Babanod ac Iau) yw'r ysgol hon. Mae'n ysgol ddyddiol, ddwyieithog, gyd-addysgol. Mae Ysgol Llandegfan yn gwasanaethu pentref Llandegfan a’r cylch gwledig cyfagos. Ceir disgyblion hefyd sydd yn teithio o’r tu allan i ddalgylch naturiol yr ysgol.
Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymuned eang ag iddi amrywiaeth ieithyddol a chymdeithasol. Gwneir y gorau bob amser i sicrhau bod pob disgybl yn teimlo’n rhan o deulu’r ysgol.
Agorwyd yr ysgol bresennol yn 1972 ac oddi yma gwelir golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri, ond mae addysg wedi ei ddarparu yn y pentref ers canrif a mwy yn yr Hen Ysgol sydd wedi ei lleoli rhyw ddau gan metr o’r ysgol bresennol.
Dyma’r unig adeilad ysgol o’i math ym Mhrydain, ac enillwyd gwobrau oherwydd y bensaerniaeth. Ceir cyfleoedd addysgu gwahanol oherwydd lefelau amrywiol yr adeilad. Bellach mae yma estyniad newydd sy’n cartrefu plant Cyfnod Sylfaen yr ysgol, Y Mudiad Ysgolion Meithrin, Y Cylch Chwarae a’r Clwb Plant ar ôl ysgol. Ceir defnydd eang o’r caeau chwarae sy’n addas i nifer o wahanol chwaraeon - yn ogystal â chorneli i arddio a hybu bywyd gwyllt, sy’n rhan annatod o ethos yr ysgol, ac sydd hefyd yn ysgol iach ac yn ysgol werdd. Gwnaiff y gymuned ehangach hefyd ddefnydd o dir yr ysgol.
Ymfalchïwn yn y ffaith bod rhieni ac ymwelwyr â’r ysgol yn cydnabod yr ymdeimlad o gyfeillgarwch a threfn sy’n bodoli yma, a’r modd y bydd disgyblion newydd yn ymgartrefu’n hapus.
Ceir awyrgylch symbylus a gweithgar yn y dosbarthiadau yn seiliedig ar gydberthynas o barch a gofal. Mae hyn yn galluogi’r disgyblion i ddatblygu hunan hyder ag agwedd bositif at ddysgu. Disgwylir safon uchel o ymddygiad ac ymroddiad ar bob achlysur. Ceir ymdeimlad da o gydweithio ac anogir pob disgybl i dderbyn a rhannu cyfrifoldebau amrywiol.
Mae yma berthynas iach ac agored rhwng pobl o wahanol gefndiroedd. Rhoddir parch i’r Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd yn ein chwarae ac yn ein gwaith. Dros y blynyddoedd, integreiddiwyd disgyblion yma yn llwyddiannus o wahanol gefndiroedd ieithyddol led led y byd. Rydym yn hyrwyddo ein harwyddair i’r eithaf i sicrhau ‘Plant yn tyfu’.
Pennaeth - Mr D Hood
Ysgol Llandegfan,
Bro Llewelyn,
Llandegfan,
Porthaethwy,
Ynys Môn
LL59 5UW
Ffôn: 01248 713431
E-bost: cliciwch yma