Wrth ymrwymo i'r prosiect ysgolion gwyrdd rydym fel ysgol wedi cytuno i,-
• Leihau gwastraff
• Arbed ynni ac adnoddau naturiol
• Lleihau llygredd
• Gofalu am yr amgylchedd lleol
• Teithio'n ddoeth
Creir Pwyllgor Ysgol Werdd yn flynyddol gan gynnwys plant o flwyddyn 3 - 6.
Byddwn yn cynnal cyfarfodydd o bwyllgor yr ‘Ysgolion Gwyrdd’ tua unwaith bob chwe wythnos yn yr ysgol. Rydym wedi cael ein hachredu ar gyfer y wobr aur dair mlynedd yn olynnol, ac wedi ennill y Faner Werdd am y trydydd tro. Rydym wedi gwneud cryn dipyn i godi ymwybyddiaeth y plant o faterion gwyrdd- megis sefydlu sgwad sbwriel, gosod blychau ailgylchu ym mhob dosbarth, garddio, gwneud arolwg o’r ffyrdd y mae’r plant yn teithio i’r ysgol, arbed ynni a gwneud arolwg o’r cemegau sy’n cael eu defnyddio gan y gwasanaethau arlwyo a glanhau.
Yn eithaf ddiweddar gwobrwywyd Gardd Wyllt Yr Ysgol yn gyntaf gan Ymddiriedolaeth Natur Wyllt Gogledd Gymru. Mae yna bwll gwyllt, byrddau picnic, bwrdd adar a chartref cwsg y gaeaf i ddraenogod, yn ogystal â ’gwesty pryfetach’ a blychau nythu, fel bod y plant yn gallu mwynhau dysgu am ryfeddodau natur mewn awyrgylch ddiogel.
Rydym hefyd yn falch iawn o’n strwythyrau helyg. Mae aelodau o’r gymuned a’r sgwad garddio o Flynyddoedd 5 & 6 wedi bod yn brysur iawn yn plannu a gofalu am ein llysiau yn ein gerddi clytwaith.