Toggle Menu

Cwricwlwm Newydd i Gymru

Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy'n newid.

Y pedwar diben

Pwrpas cwricwlwm yw galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas


Y meysydd dysgu a phrofiad

Rhaid i’r chwe maes dysgu a phrofiad canlynol (Maes/Meysydd) gael eu hadlewyrchu mewn cwricwlwm a fabwysiedir.

  • Y Celfyddydau Mynegiannol.
  • Iechyd a Lles.
  • Y Dyniaethau.
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
  • Mathemateg a Rhifedd.
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Fe fydd sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymwysedd digidol yn cael eu haddysgu ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad.

Dogfennau Pwrpasol :

https://llyw.cymru/mae-addysg-yn-newid

https://hwb.gov.wales/storage/718b28f0-573d-4ce1-aa98-a28ed733460b/cwricwlwm-newydd-yng-nghymru.pdf

https://hwb.gov.wales/storage/d3823918-b205-4c8c-b661-6b3720658e3c/cwricwlwm-newydd-yng-nghymru-canllaw-ar-gyfer-plant-pobl-ifanc-a-theuluoedd.pdf